Wyddoch chi bod Cymdeithas Chwaraeon Cymru wedi creu deunyddiau Cyfrwng Cymraeg ar eich cyfer chi?
Yn dilyn galw mawr gan aelodau aeth y Gymdeithas ati i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg a Chwaraeon Cymru. Mae’r adnodd yn cynnwys ystod o gymorth ac adnoddau rhad ac am ddim i alluogi aelodau Cymdeithas Chwaraeon Cymru a’r sector chwaraeon ehangach i ddatblygu eu defnydd o’r Gymraeg.
Mae 1 o bob 5 person yng Nghymru yn siarad Cymraeg. Mae cynnig gwasanaeth cyfrwng Cymraeg yn gallu;
- Denu aelodau a gwirfoddolwyr newydd i’r gamp
- Cwrdd ag anghenion eich aelodau presennol
- Creu ymdeimlad o dîm a balchder cenedlaethol
Mae rhestr o dermau chwaraeon defnyddiol yma
Am wybodaeth bellach ewch i wefan Chwaraeon Cymru