Ym mhrif ddinas gastronomig Ffrainc pwy fyddai yn cael seren Michelin yng ngêm fawr grŵp C yng Nghwpan Bydd 2023? Cymru yn erbyn Awstalia oedd hi nos Sul yn Lyon. Tynged y ddau dîm yn y fantol. Cymru yn ennill a bydde’r daith yn parhau yn y cwarteri, colli a bydde hi’n gymleth gyda phwytiau bonws yn allweddol yn ogystal a rhaid curo Georgia yn ein gêm olaf yn y grŵp.
Felly, dyma hanes y noson yn dechrau gyda’r ‘aperatif’, y timoedd. Cymru yn cadw ffydd gyda’r 15 wnaeth guro Ffiji yn Bordeaux, Gareth Anscombe yn cymryd lle Sam Costelow ar y fainc, penderfyniad a bydde yn profi yn allwedol. Awstralia ac Eddie Jones yn gwneud newidiadau. Ben Donaldson yn symud i safle’r maswr a dim Will Skelton, anaf ‘da’r cawr o gapten.
Yr Anthemau, 1 – 0 i Gymru yn barod. Y stadiwm yn fôr o goch gyda digon o aur ‘fyd cofiwch. Lot o Ffrancwyr hefyd, pwy fydde nhw yn cefnogi heno tybed? Awyrgylch anhygoel, nerfusrwydd yn yr awyr wrth i’r ‘Cwrs Cyntaf’ gyrraedd.
Mae dechrau yn dda mewn gêm rygbi wastod yn bwysig a dyna wnaeth Cymru. Will Rowlands yn dal y gic gyntaf a chic gosb yn erbyn Awstralia, Cymru ar y droed flaen o’r eiliad gyntaf.
Y meddiant cynnar i dîm Warren Gatland. Y lein, oedd yn wych am 80 muned, yn rhoi’r sylfaen i Gymru i ymosod. Symudiad wedi’i baratoi yn gweld y capten Jac Morgan yn hollti amddiffyn Awstralia. Am gapten. Am chwaraewr yw’r gŵr pen felen o Frynaman. Y cyflymdra a’r dwylo gyda fe i ddodi Gareth Davies, oedd nôl ar y tu fewn, o dan y pyst. Am ddechreuad, am gais. Y stadiwm yn ferw ar ôl tair muned.
Rhaid odd i Gymru amddiffyn am y cyfnod nesa’, Awstralia yn cadw’r bêl, yn mynd trwy’r cymalau ond ffyrnig oedd taclo Cymru, trefnus a chadarn. Ond mi netho ni, fi’n gallu gweud ‘ny fel un o’r miloedd yn gwisgo coch nos Sul, ildo chwe phwynt o’r tee, ac yng nghanol y bwrlwm amddiffynol roedd ‘na anaf i Gymru. Dan Bigger wedi diodde’ anaf i’w frest mewn tacl a fe yn gorfod gadael yr ornest ar ol 11 muned. Bigger yn rhan anferth o bopeth ma’ Cymru yn ei wneud, roedd hon yn ergyd fawr ac roedd naws cefnogwyr Cymru yn dangos eu bod nhw’n poeni. Anscome felly yn camu i’r cae bach yn gynt na’r disgwyl ac oedd i weithred gyntaf, cic gosb, yn aflwyddianus. Bwrw’r postyn, cnoc i’w hyder? Dim o gwbwl, yn llwyddo gyda’r dair nesa ac yn llywio Cymru yn wych wrth i’r ‘Cwrs Cyntaf’ orffen, gyda Pays de Galles yn ymosod mas yn llydan ac ar y blaen o 16-6.
Y cefnogwyr yn hyderus ond yn gwbod bod 40 muned yn amser hir yn y byd rygbi, ni wedi bod ‘ma o’r bla’n yn erbyn Awstralia, gofynwch i Wayne Pivac. 40 muned rhwng Cymru a’r cwarteri. Mwy o’r un peth yn yr ail hanner os gwelwch yn dda oedd hi.
A dyma’r prif gwrs yn cyrraedd, y timoedd nôl ar y cae, Cymru nawr yn ymosod y llinell gais lle ro’n i’n eistedd. Braf bydde gweld ton ar ôl ton o goch yn llifo tuag atom. A dyna yn union be ddigwyddodd. Anscombe yn arwr gyda’i gicio at y pist yn ymestyn y bwlch i 19 i 6 cyn i fe, yn dilyn cyfnod hir o ymosod yn nwy ar hugain Awstralia, gweld gwagle yn y cae cefn. Cic bwt dros ben llestri a Nick Tomkins, gafodd gêm wych, yn casglu a thirio o dan y pyst. Trosiad syml yn gweld Cymru ar ôl 50 muned 26 – 6 ar y blaen. Awstralia yn cynnig dim, Cymru ddim yn rhoi eiliad iddyn nhw, ei sgrym o dan y lach, ildio ciciau cosb ac Anscombe a’i anel mor gywir. 29 – 6. 32 – 6. 60 muned nawr ar y cloc, doedd dim ffordd nôl i’r ‘Wallabies’. Serch hynny, gydag ugain muned ar ôl yn y gêm, doeddwn i, fel nifer arall o gefnogwyr Cymru, ddim cweit yn barod i ymlacio. Atgofion gêm Ffiji yn Bordeaux yn ffres yn y cof.
Y cwarter olaf. A fydde pwdin blasus yn ymddangos i goroni’r perfformiad gwych? Roedd Cymru yn reoli yn llwyr, ei gafael ar y gêm yn dynn. Deg muned yn pasio cyn i ni weld y pwyntiau nesa. Amddiffyn Awstralia yn gadarn ar ei lein. Cymru yn cadw’r bêl, yn byta amser, cyn i Anscombe weld cyfle am gôl adlam. Magnifique! 35 – 6 a llai na 10 muned ar ol. Ro’n i’n awr yn gallu anadlu yn gwbod bod y fuddugoliaeth yn y bag, y nerfusrwydd yn troi i orfoledd. Y pac wedi bod yn wych, yn enwedig y reng ôl. Y sgrym yn bwerus a’r lein yn tip top. Y pymtheg, y dauddeg tri, y garfan gyfan wedi perfformio yn y gêm oedd rhaid ennill. Y stadiwm yn grombil o ganu. Calon Lan, Hymns and Arias, Sosban Fach ag ambell La Marseillaise! Mi odd un ymdrech i ganu Waltzing Matilda ond yn debyg i ymdrechion Awstralia ar y cae, boddi o dan ton goch wnaeth yr ymdrech heb fawr o ‘waltzo’.
Roedd Awstralia wedi cael ‘i chwalu ac mi roedd na ‘Creme Brulee’ blasus i goroni’r fuddugoliaeth. Lein 5 metr. Tafliad dewr i’r cefn a’r pac yn creu sgarmes symudol bwerus. Llinell gais Awstralia ar fin cael ei chroesi am y trydydd tro. A phwy oedd ar waelod y pentwr? Jac Morgan, capten Jac. Capten sy’n arwain o flaen y gâd. Chwaraewr cyflawn. Un o sêr y Cwpan Byd mor belled. Nath Anscombe fwrw’r postyn am yr ail waith gyda’r trosiad ond doedd dim lot o ots. Cymru 40 Awstralia 6. (nid missprint mohono!)
Yn y funed oedd ar ôl o’r 80, wnaeth Awstralia ymosod. Doedden nhw heb sgori pwynt ers muned 14, ac roedd amddiffyn Cymru ddim am ildio. Awstralia yn cael ei dal lan dros y linell gais a Wayne Barnes y dyfarnwr, gath gêm dda iawn, yn chwythu’r chwiban olaf.
Buddugolaieth i Gymru. Ei lle yn y Cwarteri yn sicr. Sawl record wedi eu torri wrth chwalu Awstralia. Roedd na angrhediniaeth ymysg y cefnogwyr, wedi bod yn dyst i rwbeth sbesial. Roedd Awstralia yn wael? Oedden, ond roedd Cymru wedi gwneud i un o fawrion y gêm i edrych felly. Stwffad, cweir, cot, tancad, chwalfa. 40 i 6. Gwych oedd cael bod ‘na. Noson fythgofiadwy yn Lyon, a ‘sdim dwywaith amdani- seren Michelin i Gymru! Allez Les Rouges!