Ifan Phillips: yn ysbrydoli

Sgwrs fyw yng Nghlwb Rygbi Aberteifi ar 19 Hydref

Mae noson arbennig yn cael ei chynnal yng nghwmni dyn ifanc ysbrydoledig, sy’n goresgyn heriau ers colli ei goes.

Mae Ifan Phillips yn gyn-chwaraewr rygbi proffesiynol sydd wedi troi ei fywyd rownd ers ei ddamwain motobeic ddifrifol.

“Ble bynnag mae Ifan, mae gole.”

Ar rhaglen Ifan Phillips: Y Cam Nesaf ar S4C yn ddiweddar, mae cyn fachwr Cymru, Kevin Phillips, yn canu clodydd ei fab am ymateb mor gadarnhaol i’w sefyllfa.

Mae Ifan bellach wedi dechrau hyfforddi ei dîm rygbi lleol yng Nghrymych, mae’n sylwebu, ac yn cymryd pob cyfle i fanteisio ar brofiadau positif sydd ar gael i bobol yn ei sefyllfa e.

Dewch i glywed mwy gan Ifan ac ambell berson arall o’r ardal, yn y sgwrs ysbrydoledig hon sy’n cael ei threfnu gan Chwys – y cylchgrawn chwaraeon newydd.

 

8pm nos Iau 19 Hydref

Clwb Rygbi Aberteifi

 

Am ddim i danysgrifwyr Chwys (tanysgrifiwch am £1 y mis), neu gallwch brynu tocyn i’r digwyddiad am £8.

 

Rydym yn cydnabod cefnogaeth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru a Chymru Greadigol i gynnal y digwyddiad hwn, yn rhan o brosiect Ein Stori Ni.