Bywyd ar frig y ‘mid-table’

Myfyrdodau rygbi ffantasi Cwpan y Byd

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Peth neis iawn yw mynd i’r gwaith ar fore Llun a gwybod eich bod wedi neidio uwch ben eich cydweithiwyr mewn cynghrair rygbi ffantasi.

Dyna ddigwyddodd i fi wythnos yma, diolch i asgellwr o’n i’n gwybod nesa-peth-i-ddim amdano cyn y penwythnos, o’r enw Leicester Fainga’anuku. Sa’i wedi bod yn dda iawn am ddewis y capteiniaid gorau mewn rowndiau blaenorol, ond y tro yma fe weithiodd, gan roi cyfle i fi fanteisio ar wendidau amddifynnol yr Eidal, sydd wedi bod yn siomedig yn y bencampwriaeth eleni.

Tactics yw popeth mewn rygbi ffantasi. Does dim y fath beth â lwc.

Weithiau, mae’n rhaid rhoi teyrngarwch greddfol i’r naill ochr â dewis ambell Sais yn eich tîm. Dwi wedi cael fy nal yn dathlu sgôr i Owen Farrell yn y gorffennol. Galla i mond ymddiheuro.

Mynd yn erbyn gwlad fy nhadau yw’r peth poenus nesa sydd yn rhaid ei wneud, mae’n debyg. Efallai mai dyna pam dwi ddim ar frig y tabl – hyd yn hyn dwi wedi ffili cael y galon i ddewis chwaraewyr sy’n wynebu Cymru.

Cofio defnyddio fy holl ‘boosters’ cyn diwedd y gemau grŵp oedd un tictac arall sydd wedi fy helpu. Dwi newydd ddysgu bod un cydweithiwr wedi gwneud y camgymeriad fatal a meddwl ei bod hi’n well safio’r rhain tan y gemau sydd i ddod. ‘Na’i ddysgu fe am beidio â darllen rheolau cyn mentro mewn i gystadleuaeth lle mae cymaint yn y fantol!

Mae’n werth nodi nid yn unig y byddwn ni’n cael boosters newydd i’w defnyddio yn y rowndiau nesaf, ond bod modd dewis hyd at 4 chwaraewr o unrhyw wlad i’r chwarteri, a bod y credyd yn cynyddu i 115. Lwcus o hynny – sai’n credu bod props sy’n werth 2.5 credid ar ôl i hwpo mewn i lenwi bwlch rhagor.

Chweched ydw i yng nghyngrair rygbi ffantasi Chwys.

Sef, i bob pwrpas, y best of the rest.

Mae’r gamp o oddiweddyd y pump sydd uwch fy mhen i’n teimlo fel mynydd i’w ddringo (mae gan y boi ar y brig 999 o bwyntiau’n fwy na fi). Mae da fi gymaint o siawns i fennu’r bencampwriaeth yma ar y brig ag sydd gan Gymru o ennill Cwpan y Byd – ni’n dal ynddi, ond bydd ishe curo Seland Newydd…

O edrych ar bethau fel arall, dwi ar y brig o blith staff Golwg. Byddai bennu uwch eu pennau yn rhoi digon o kudos i fi i bara oes. Wel… nes y gynghrair rygbi ffantasi nesa.

Mae modd i bobol newydd ymuno â’r gynghrair, ac os oes gyda chi dîm yn barod defnyddiwch y cod S41HCAY0, i weld a allwch chi gyrraedd brig y tabl.

Dwi ddim yn awgrymu bod gormod yn ymuno â’r clwb, wrth gwrs. Sai ishe colli fy lle ar frig y mid-table i neb.