Croesawodd y Dreigiau’r Gweilch i Rodney Parade dros y penwythnos gyda’r tîm cartref heb brofi buddugoliaeth ar dir cartref ers Hydref 2022.
Does dim angen aros yn hirach gyda’r Dreigiau wedi sicrhau buddugoliaeth o 20-5 dros y Gweilch yng Nghasnewydd, a’i buddugoliaeth gyntaf yn y bencampwriaeth y tymor yma.
Dywedodd Dai Flanagan, prif hyfforddwr y Dreigiau; “Rwy’n browd iawn o’r grwp. Fe wnaethon ni drafod cyn y gêm am fynd allan a thynnu’r hualau.
“Roeddem ni gyd wedi teimlo gwres canlyniadau ac roeddem ni’n edrych fel ein bod ni’n chwarae o fewn ein hunain.
“Chi’n siarad am bwysau ac mae’r chwaraewyr yn darllen pob peth sy’n cael ei ddweud. Mae’n naïf i feddwl fel arall.
“Fe wnes i ddweud wrthyn nhw i anwybyddu canlyniadau a gadael i bawb arall siarad am hynny.
“Roeddwn i’n bles iawn gyda fel wnaethon ni berfformio. Fe wnaethon ni daflu’r bêl o gwmpas a dominyddu gyda’n cyflymder a thempo. Ry’n ni eisiau chwarae fel ‘na.
“Roedd ein amddiffyn yn wych hefyd. Fe wnaethon ni ddal yn gadarn yn y gwrthdrawiadau, llenwi’r cae a chymryd y gofod. Gall hyn ein symud ymlaen nawr.”
Aeth y capten Rhodri Williams ymlaen i ddweud: “Fe wnaethon ni siarad cyn y gêm am chwarae ein gêm ein hunain a’i thaflu o gwmpas. Roedd yn berfformiad cyflaen gan y tîm i gyd.”
Enwyd y cefnwr Cai Evans yn Seren y Gêm yn y fuddugoliaeth, canlyniad oedd â elfen bersonol iddo ar ôl treulio chwe tymor gyda’r Gweilch cyn ymuno â’r Dreigiau ar ddiwedd tymor diwethaf.
“Roedd yn rhywbeth newydd i fi, teimlad braidd yn rhyfedd, ond mae’r Dreigiau wedi bod yn groesawgar iawn ac roedd yn golygu lot i gael y fuddugoliaeth.”
“Roedden ni eisiau dod allan i chwarae, mynegi ein hunain a dangos gwir fwriad. Fe wnaeth yr yr ymdrech, yn enwedig yn y gwaith amddiffyn, ein rhoi ni mewn safle da i ennill. Mae angen i ni gymryd y momentwm yma nawr a symud ymlaen.”