Mae Seimon Williams newydd gyhoeddi ‘Welsh Rugby: What Went Wrong’, ac yma mae yn cloriannu’r flwyddyn a fu yng nghylchgrawn Golwg.
Mae’r erthygl hon am ddim i danysgrifwyr Chwys…
Ar ddiwedd 2022, ar ôl i dîm cenedlaethol y dynion golli i’r Eidal am y tro cyntaf yng Nghaerdydd, ac i Georgia am y tro cyntaf unrhyw le, fe gollodd Wayne Pivac, y prif hyfforddwr, ei swydd. Doedd hynny’n fawr o syndod, efallai, ond annisgwyl oedd gweld Warren Gatland yn dychwelyd – yr hyfforddwr a brofodd cyfnodau o lwyddiant yn ei bron deuddeg o flynyddoedd gyntaf yn y swydd, nôl i gyflawni un wyrth arall.
Ar y cae proffesiynol, roedd y pedwar clwb yn ei chael hi’n anodd, pob un yn gorwedd yn iselfannau’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig (PRU). Roedd torfeydd yn gostwng, diddordeb yn treiglo bant.
O ran gweinyddiad y gamp, hunanfodlon oedd Undeb Rygbi Cymru. Bu ymgais gan y weinyddiaeth i ddiwygio, ymhellach, strwythurau hynafol yr Undeb. Gwrthododd clybiau’r Undeb gynigion i ddod â mwy o arbenigedd allanol i’r Bwrdd. Digon da oedd bob dim.
Erbyn gemau cyfnod y Nadolig, roedd y cefnogwyr yn gorymdeithio, yn mynnu atebion i benderfyniad yr Undeb i atal cyfarfodydd gyda nhw, ac i wthio am gytundeb ariannol rhwng yr Undeb a’r clybiau proffesiynol.
Ond teg dweud mai’r flwyddyn oedd i ddod fyddai’r flwyddyn fwyaf cythryblus a, mewn rhai ffyrdd, mwyaf cywilyddus yn hanes gêm y bêl hirgron yng Nghymru.
‘Diwylliant gwenwynig’
Ar ddiwedd Ionawr, darlledwyd rhaglen BBC Wales Investigates yn amlygu straeon oedd ar led am ddiwylliant mewnol yr Undeb, gan gynnwys ensyniadau nad oedd menywod yn cael eu llawn barch yng nghoridorau Stryd Westgate a chanolfan hyfforddi’r Fro. Dyma gadarnhau’r sïon, wrth i Charlotte Wathan fynd ar goedd gyda’i henghreifftiau o driniaeth sarhaus a rhywiaethol gan unigolion o fewn Undeb Rugby Cymru. Ymateb yr Undeb oedd tanseilio’r cyhuddiadau. Awgrymodd Warren Gatland bod ‘dwy ochr’ i bob stori. Dywedodd Henry Engelhardt, aelod annibynnol o fwrdd yr Undeb, ei fod wedi’i gythruddo gan y ffordd unochrog, yn ei farn ef, y cyflwynwyd y rhaglen gan y BBC.
Ond nid oedd modd i’r Undeb osgoi’r feirniadaeth y tro hwn. Er iddo frwydro i ddal ymlaen i’w swydd, gorfodwyd y Prif Weithredwr Steve Phillips i ymddiswyddo (ar becyn ffarwel o bron i hanner miliwn o bunnoedd). Camodd Nigel Walker, y Cyfarwyddwr Perfformiad, i’r bwlch dros dro. Llusgwyd Walker a’i Gadeirydd, Ieuan Evans, o flaen pwyllgor Seneddol, gan gyfaddef fod y gêm, a’r Undeb, mewn ‘argyfwng dirfodol’.
Sefydlwyd ymchwiliad annibynnol dan gadeiryddiaeth Anne Rafferty. Daeth yr adroddiad fis Tachwedd, a dirdynnol oedd ei gynnwys.
Wedi dros hanner cant o gyfweliadau, ac ar draws 134 o dudalennu, canfyddiad yr ymchwiliad oedd bod agweddau o’r Undeb yn hiliol, rhywiaethol, misojinistaidd a homoffobig. Ymysg y sylwadau a’u hamlygwyd yn yr adroddiad oedd ensyniadau bod aelodau benywaidd wedi ‘cysgu eu ffordd i’r top’, sylwadau homoffobaidd yn erbyn – yn benodol – aelodau benywaidd o’r gweithlu. Clywyd am aelodau staff oedd yn dioddef o iselder, hyd yn oed yn ystyried hunanladdiad, oherwydd y diwylliant ‘anfaddeugar, hyd yn oed dialgar’, gyda staff yn ofni siarad mas rhag gwylltio’u meistri.
Bwrdd ‘ddim yn addas i bwrpas’
Yn ôl adroddiad Rafferty, ‘methedig’ oedd y Bwrdd. Nid oedd ganddo, ar y cyfan, y gallu i herio’r weinyddiaeth. Yn ôl un sylw anhysbys gafodd ei gynnwys yn yr adroddiad, ofnus oedd rhai aelodau o’r hyn roedd yn rhaid iddynt ei wneud, os oeddent yn ymwybodol o’r hyn yr oedd yn rhaid iddynt ei wneud o gwbwl – ‘os gofynna i’r cwestiwn cywir, dwi ddim yn gwybod beth i’w wneud â’r ateb. Felly, mae’n llawer gwell peidio â gofyn y cwestiwn’ oedd byrdwn y sylw am agwedd ambell aelod.
Serch hynny, nid oedd y diffyg herio hwn yn ymestyn i bob aelod o’r Bwrdd. Yn enwedig yr aelodau benywaidd. Roedd Amanda Blanc – un o brif bennau busnes ynysoedd Prydain, prif weithredwraig Aviva, ac yn berson busnes 2021 y Sunday Times – yn cadeirio’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol ac felly’n eistedd ar Fwrdd llawn yr Undeb. Ymddiswyddodd Blanc o’i rôl gwirfoddol ddiwedd 2021. Yn adroddiad Rafferty, cyhoeddwyd testun ei llythyr ymddiswyddo a thrawsgrifiad o’i haraith ymadael. Digon di-flewyn ar dafod oedd Blanc. Cwestiynwyd ei phrofiad o fyd busnes ac o lywodraethiant gan aelod o’r Bwrdd. Nid oedd rhai o’r aelodau yn barod i dderbyn ei chyngor. Bu’n rhaid iddi wrando ar aelodau’n cyfeirio at fenywod fel pobol israddol, nad oedd ganddynt rôl i’w chwarae ym myd rygbi. Ar achlysur arall, wrth drafod camau disgyblu posib yn erbyn aelod (gwrywaidd) o’r Bwrdd yn sgil honiadau o fwlio, rhoddwyd 66 o’r 80 o funudau barhaodd y cyfarfod i drafod ffyrdd o sicrhau bod yr aelodau yn cadw’i gyflenwad llawn o docynnau i gemau rhyngwladol.
Derbyniodd Undeb Rygbi Cymru pob un o 36 argymhelliad yr adroddiad.
Roedd yr Undeb eisoes wedi dechrau gweld rhywfaint o’r goleuni. Nôl ym mis Mawrth, ail-gyflwynwyd y cynigion a wrthodwyd gan y clybiau’r Hydref blaenorol. Y tro hwn, aeth y cynigion trwodd bron yn unfrydol. Y bwriad oedd lleihau’r niferoedd o gynrychiolwyr etholedig i’r Bwrdd o blith yr ardaloedd, cynyddu canran y menywod i isafswm o 40%, ac i gynyddu’r nifer o aelodau annibynnol – gydag ystod o sgiliau pwysig – o dri i chwech, ac i benodi cadeirydd annibynnol. Erbyn cyhoeddiad adroddiad Rafferty, roedd y newidiadau hyn yn eu lle.
Diffyg gofal o gêm y menywod
Ymysg y ffactorau wnaeth guthruddo Amanda Blanc gymaint oedd y diffyg sylw a roddwyd i gêm y menywod. Comisiynwyd ymchwiliad mewnol ar ôl pencampwriaeth Chwe Gwlad siomedig yn 2021. Dan bwysau, cyhoeddwyd argymhellion yr adroddiad fis Mehefin eleni, ond nid yr adroddiad cyfan. O’r 40 argymhelliad, datganiad prif weithredwr dros-dro’r Undeb, Nigel Walker, oedd bod y rhan fwyaf wedi neu wrthi’n cael eu gweithredu. Yn eu plith oedd sefydlu cytundebau cyflogaeth proffesiynol i aelodau’r garfan genedlaethol, creu tîm technegol digonol i gefnogi’r garfan, ac i gynyddu ymwybyddiaeth y Bwrdd llawn o ddatblygiadau yng ngêm y menywod. Gyda’r mwyafrif o’r garfan genedlaethol yn chwarae yn Lloegr ar hyn o bryd, erbyn diwedd y flwyddyn roedd yr Undeb wrthi’n sefydlu tri thîm rhanbarthol newydd i chwarae yn y gystadleuaeth Geltaidd newydd.
Gwelwyd gwelliant sylweddol o ran perfformiadau’r tîm cenedlaethol. Enillwyd tair gêm ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad i sicrhau lle ymhlith y chwech uchaf ym mhencampwriaeth newydd byd-eang WXV fis Tachwedd. Collwyd pob gêm, ond roedd yna wydnwch i’r perfformiadau sy’n argoeli’n dda i’r dyfodol.
Dim gwyrth i Gatland
Y tro cyntaf i Warren Gatland gamu i mewn fel prif hyfforddwr tîm cenedlaethol y dynion yn 2008, enillwyd y Gamp Lawn yn syth. Y tro hwn, collwyd pob gêm ond un, a hwnnw yn erbyn deiliad parhaol bron y llwy bren, yr Eidal. Crasfa oedd hanes y gêm adref yn erbyn Iwerddon, a bant yn erbyn yr Alban. Cyn y gêm yn erbyn Lloegr, daeth bygythiad y byddai’r chwaraewyr yn streicio dros ddiffyg sicrwydd ariannol. Chwaraewyd – a chollwyd – y gêm.
Gyda Chwpan Rygbi’r Byd yn nesáu, enwodd Gatland garfan ymarfer estynedig. O fewn wythnosau, roedd Alun Wyn Jones a Justin Tipuric wedi ymddeol o’r gêm ryngwladol. Arwyddodd Rhys Webb a Ross Moriarty gyda chlybiau yn Ffrainc, eu cytundebau yn amodol ar eu hymddeoliad hwythau o’r gêm brawf hefyd. Wedi methu canfod clwb yng Nghymru oherwydd argyfwng ariannol y clybiau, bu’n rhaid i Cory Hill arwyddo unwaith eto gyda chlwb yn Siapan gan hepgor y cyfle i fynd i’r twrnament. Roedd y canolwr ifanc, Joe Hawkins, wedi arwyddo i Gaerwysg ymysg yr holl ansicrwydd – mi fyddai hynny’n sicrhau na fyddai yntau chwaith yn mynd i Ffrainc.
Yn y pendraw, lled lwyddiannus oedd Cwpan y Byd. Curwyd Ffiji mewn chwip o gêm agoriadol, chwalwyd Awstralia o 40-6 i sicrhau lle yn y chwarteri. Gyda’r Ariannin nesaf, dechreuodd y cefnogwyr freuddwydio am le yn y pedwar olaf. Ffôl oedd y freuddwyd honno, ond ar y cyfan, digon derbyniol oedd y perfformiad.
Llwgu’r clybiau
Un o’r prif ffactorau wrth wraidd yr ansefydlogrwydd dros y flwyddyn oedd diffyg cytundeb ariannol rhwng yr Undeb a’r clybiau proffesiynol. Effaith hyn oll oedd nad oedd sicrwydd i dros 70 o chwaraewyr – oedd â’u cytundebau yn dod i ben yn ystod haf eleni – y byddai ganddynt glwb heibio mis Mehefin. Wedi bygwth streic, fe ddaeth cytundeb yn y diwedd, ond annigonol yw’r arian o fewn y cytundeb newydd, ac fe adawodd llu o chwaraewyr megis Liam Williams, Gareth Anscombe, Tomas Francis a Dillon Lewis.
Wedi gwerthu cyfran o’u hawliau i bencampwriaethau’r PRU a’r Chwe Gwlad, lleihau byddai taliadau’r Undeb i’r clybiau. O daliad o £23.5m yn 2021, byddai’r setliad ar gyfer 2023-4 yn caniatáu costau carfan o ddim mwy na £5.2m fesul clwb, a dim mwy na £4.5m yn 2024-5.
Gwaeth na hynny, roedd yr Undeb wedi benthyg arian gan Lywodraeth Cymru er mwyn talu’r clybiau yn ystod y pandemig. Ar ôl awgrymu mai £26m byddai’r taliad yn 2021, £3m oedd ar gael (tra gwarchodwyd y tîm cenedlaethol a’r clybiau cymunedol) heb y benthyciad. A, gwaeth byth, gorfodwyd y clybiau i’w ad-dalu. Maent felly yn talu mas £2m y flwyddyn i wasanaethu’r benthyciad o gyllidebau sydd eisoes yn annigonol. Gall rhywun ond gobeithio y bydd yr Undeb newydd yn ail-ymweld â’r penderfyniad.
Gwanio mae’r clybiau ar y cae. Wrth i’r PRU gymryd hoe cyn y Nadolig, mae pedwar clwb Cymru ymysg chwe gwaelod y bencampwriaeth.
Camu i 2024
Y gobaith yw mai 2023 oedd yr iselbwynt, cyn waethed ag y gallai pethau fod.
Mae yna arwyddion positif i’w cymryd i’r flwyddyn newydd. Bydd y brif weithredwraig newydd, Abi Tierney, yn camu i’r swydd fis Ionawr, ac amcan cyntaf hi a’i chadeirydd newydd Richard Collier-Keywood fydd i greu strategaeth newydd ar gyfer pob lefel o’r gêm. Mae’r Bwrdd newydd yn awgrymu eu bod yn gwerthfawrogi rôl allweddol y clybiau proffesiynol wrth ddatblygu chwaraewyr, a’r angen i sicrhau eu bod yn gystadleuol. Derbyniwyd adroddiad Rafferty i ddiwylliant yr Undeb, a daeth ymrwymiad i weithredu ar bob un o’i hargymhellion. Telir mwy o sylw a gofal i gêm y menywod, gyda mwy o gytundebau proffesiynol i’r chwaraewyr a mwy o hyfforddwyr a staff cefnogol arbenigol wrth eu cefnau. Mae yna lwybr i’r to ifanc yng ngêm y menywod weithio’u ffordd i’r lefel broffesiynol. Mae trafodaethau yn parhau hefyd, yng ngêm y dynion, ar sefydlu cystadleuaeth newydd i bontio rhwng y gêm broffesiynol a’r gêm gymunedol.
Felly mae yna obaith bod pethau’n dechrau troi i’r cyfeiriad iawn, ond y pryder yw bod y blynyddoedd diwethaf wedi gwneud niwed difrifol i’r gêm yng Nghymru. Gallwn ond gobeithio bydd y newidiadau sydd ar y gweill yn cael effaith yn fuan, achos ychydig iawn o amser sydd gennym ni ar ôl i achub lle Cymru fel un o brif wledydd y gêm.