Rhodri Gomer yn sgwrsio gydag Angharad Davies

Mae’r rhedwraig Angharad Davies wedi ei dewis i gynrychioli Cymru yn Ras Ffordd Ryngwladol Armagh

gan Nerys Henry a Rhodri Gomer

Mae’r rhedwraig pellter canol, Angharad Davies o Lanymddyfri, yn un o 8 o redwyr sydd wedi eu dewis i gynrychioli Cymru yn Ras Ffordd Ryngwladol Armagh 2024 ym mis Chwefror.

Yn un o ddisgyblion llwyddiannus Clwb Harriers Caerfyrddin, mae Angharad bellach yn byw yn Sbaen. Mae’n gweithio ar gemau pêl-droed i’r cwmni Hawkeye ac yn cystadlu ar y trac mor aml a phosib.