🎥 Rhodri Gomer yn sgwrsio gyda Stevie Williams

Y Cymro yn siarad â Chwys diwrnodau ar ôl ennill y Tour Down Under

gan Nerys Henry

Mae Stevie Williams, y Cymro o Aberystwyth sydd yn rasio ar dîm Israel Premier Tech, yn sgwrsio â Rhodri Gomer ychydig ddiwrnodau ar ôl ennill rownd agoriadol Taith y Byd UCI 2024 mewn steil, gan hawlio cymal olaf y Tour Down Under ar Mount Lofty.

Wedi’i glymu ar amser gydag Oscar Onley, enillydd Willunga Hill, ar ddechrau’r diwrnod, roedd Williams aeth â hi ar Mount Lofty gan orffen 9 eiliad ar y blaen i’r gwr o Ecwador sydd yn nhîm Ineos, Jhonatan Narváez, yn y GC (dosbarthiad cyffredinol).

“Neges bach i bawb adre’ … rhaid i fi ddweud diolch yn fawr iawn am yr holl negeseuon, ac i bawb yng Nghymru sy’n dweud pethau neis ar ôl rasys fel hyn – dwi’n cymryd e i gyd mewn.” meddai Stevie.