Ymunwch â chynghrair rygbi ffantasi Chwys

Pwy fydd yn fuddugol eleni?

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Ydy, mae bron yn fis Chwefror, sy’n golygu un peth – mae’r Chwe Gwlad ar y gorwel.

Ydych chi’n un o’r rheina sy’n meddwl bod unrhyw beth yn bosib i Gymru cyn i’r gic gynta gael ei chymryd? Neu ydych chi’n anobeithio’n barod gyda’n carfan amhrofiadol?

Pa bynnag ffordd ry’n chi’n ei gweld hi, ry’ch chi’n siŵr o fod edrych mlaen yn eiddgar at weld y bencampwriaeth yn dechrau. Dymar tro cyntaf i’r gwledydd ymddangos ers Cwpan y Byd. Ac mae gwledd o rygbi o’n blaenau…

Gan fod cynghrair rygbi ffantasi Cwpan y Byd Chwys wedi bod yn gymaint o sbort, ry’n ni wrthi eto. Y tro hyn, mae cyfle ganddoch chi i gyrraedd brig cynghrair ffantasi Chwe Gwlad Chwys.

Ewch ati i gofrestru eich tîm ar wefan Guinness Six Nations, a defnyddio’r cod YOXLT i ymuno â chynghrair y ffans chwaraeon.

Pob lwc i bawb.

Yn enwedig Cymru – mae angen e!