Rhodri Gomer yn sgwrsio gyda Lowri Thomas

Llwyddiant i’r beicwraig ym Mhencampwriaethau Ewrop 

gan Nerys Henry

Mae Lowri Thomas, sy’n hanu’n wreiddiol o Lanfair-ym-Muallt, wedi mwynhau llwyddiant diweddar ym Mhencampwriaeth Seiclo Trac Ewrop gyda’i chyd-Gymraes Emma Finucane.

Rhodri Gomer sy’n cael cyfle i sgwrsio â hi am y paratoadau, byw ym Manceinion a’i gobeithion am y dyfodol.