A hithau’n dymor yr Oscars, a phawb yn edrych tuag at Los Angeles, mae Rhodri Gomer wedi cael cyfle i sgwrsio ag unigolyn sydd a’i sylw ar y ddinas sgleiniog am reswm gwbwl wahanol!
Y rhwyfwr amryddawn Cedol Dafydd, o Bentir, sy’n sgwrsio â Rhodri wythnos hon.
Fel plentyn ifanc yng Ngogledd Cymru, ac yn ddisgybl yn Ysgol Y Garnedd ac Ysgol Tryfan, nofio a rhedeg oedd yn mynd a’i bryd. Dechrau rhwyfo ym Mhrifysgol Caerfaddon wnaeth Cedol, ac mae bellach yn byw yn Henley-on-Thames, Llundain, ac yn rhan o Rhaglen START Tîm Rhwyfo Prydain Fawr.
Mae’r rhaglen yn targedu myfyrwyr Prifysgol Caerfaddon a phobl ifanc o flwyddyn 10 i fyny gyda neu heb gefndir mewn rhwyfo ond sydd â’r potensial i fod yn athletwr Olympaidd yn y dyfodol.
Mae’r broses o adnabod talent yn cynnwys bodloni meini prawf a lefelau ffitrwydd sy’n dynodi potensial rhwyfo.
Mae Cedol bellach yn ymarfer fair gwaith y dydd, chwe diwrnod yr wythnos. Mae e’n gobeithio cynrychioli Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau Rhwyfo’r Byd yng Ngwlad Pwyl eleni, ac yn anelu i gyrraedd Gemau Olympaidd Los Angeles 2028.