Cyfweliad egsliwsif gyda Caryl Thomas 

Rhodri Gomer sy’n sgwrsio â Caryl ar ôl i’r Undeb gyhoeddi ei swydd newydd fel Arweinydd Cymunedol

gan Nerys Henry a Rhodri Gomer

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi bod cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Caryl Thomas wedi ei phenodi fel Arweinydd Cymunedol yr Undeb ar gyfer gêm y Merched a’r Menywod yng Nghymru.

Cafodd Rhodri Gomer gyfle i sgwrsio gyda Caryl yn ddiweddar am ei gyrfa rhyngwladol ar y cae, ei gwaith yn hyfforddi, teulu, symud yn ôl i Gymru, ac edrych ymlaen at ei rôl newydd.

Enillodd y prop rhyngwladol 65 o gapiau rhwng 2006 a’r llynedd pan benderfynodd ymddeol o’r gamp fel chwaraewr. Fe gynrychiolodd ei gwlad mewn pedair cystadleuaeth Cwpan y Byd yn ystod ei gyrfa nodedig a bu’n chwaraewr proffesiynol am flwyddyn olaf y cyfnod hwnnw.

Dweud eich dweud