Cyn i neb gyffwrdd pêl yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc eleni, roedd 2023 yn barod wedi sicrhau ei lle yn y llyfrau hanes fel blwyddyn fythgofiadwy gyda nifer fawr o chwaraewyr adnabyddus Cymru yn ymddeol o’r llwyfan rhyngwladol.

Gyda charfan Cymru heb wneud cam i’r cae ymarfer cyhoeddodd Rhys Webb, Justin Tipuric ac Alun Wyn Jones eu bod oll wedi penderfynu rhoi’r ffidil yn y to ar eu gyrfaoedd cenedlaethol.