gan
Rhodri Gomer
Ym mis Ebrill eleni, cyhoeddodd Josh Turnbull ei fod yn ymddeol o rygbi proffesiynol ar ôl 17 mlynedd ar y cae ac mae Rhodri Gomer wedi cael cyfle i sgwrsio ag ef.
Cawn glywed am sut ddechreuodd ei ddiddordeb mewn rygbi, ei yrfa gyda dau o’r rhanbarthau yng Nghymru, cyfle i gynrychioli Cymru a’r hyn sydd i ddod nesaf.
Yn ystod ei yrfa fe chwaraeodd 334 gêm broffesiynol, 134 i’r Scarlets a 200 i Rygbi Caerdydd. Chwaraeodd rôl bwysig ym muddugoliaeth y brif ddinas pan wnaethon nhw godi tlws Cwpan Her Ewrop yn 2018.
Enillodd 13 cap dros Gymru hefyd mewn gyrfa hynod lewyrchus i’r gŵr o orllewin Cymru.
Fe fydd Turnbull yn awr yn symud ymlaen i swydd hyfforddi gydag academi Rygbi Caerdydd.