Rhodri Gomer yn sgwrsio gyda Josh Turnbull

Sgwrs gyda’r chwaraewr rygbi ar ôl iddo gyhoeddi ei ymddeoliad

gan Rhodri Gomer

Ym mis Ebrill eleni, cyhoeddodd Josh Turnbull ei fod yn ymddeol o rygbi proffesiynol ar ôl 17 mlynedd ar y cae ac mae Rhodri Gomer wedi cael cyfle i sgwrsio ag ef.

Cawn glywed am sut ddechreuodd ei ddiddordeb mewn rygbi, ei yrfa gyda dau o’r rhanbarthau yng Nghymru, cyfle i gynrychioli Cymru a’r hyn sydd i ddod nesaf.

Yn ystod ei yrfa fe chwaraeodd 334 gêm broffesiynol, 134 i’r Scarlets a 200 i Rygbi Caerdydd. Chwaraeodd rôl bwysig ym muddugoliaeth y brif ddinas pan wnaethon nhw godi tlws Cwpan Her Ewrop yn 2018.

Enillodd 13 cap dros Gymru hefyd mewn gyrfa hynod lewyrchus i’r gŵr o orllewin Cymru.

Fe fydd Turnbull yn awr yn symud ymlaen i swydd hyfforddi gydag academi Rygbi Caerdydd.