Mae INEOS Grenadiers wedi cadarnhau mai Geraint Thomas bydd yn arwain y tîm unwaith eto yn her Giro d’Italia 2024.

Fe fydd y Cymro, sy’n gyn enillydd y Tour de France, yn arwain tîm cyffrous ac yn gobeithio mynd un cam yn bellach na’r llynedd ar ôl iddo golli’r fuddugoliaeth o drwch blewyn i Primoz Roglic.

Bu’n rhaid iddo dynnu allan o’r ras yn 2017 a 2020 ar ôl dod oddi ar ei feic, ac roedd ymdrech arwrol 2023 – lle bu’n gwisgo’r Maglia Rosa (y crys pinc) hyd at y cymal olaf ond yn un – yn dorcalonnus yn y pendraw wrth iddo golli’r teitl o 15 eiliad.

Dyma fydd y chweched tro i Thomas rasio yn y Giro, ras 21 cymal sy’n cynnwys 3400 cilometr o rasio. Bydd y ras yn cychwyn yn Turin ar ddydd Sadwrn 4ydd o Fai ac yn gorffen yn Rhufain ddydd Sul 26ain o Fai.

Wrth edrych ymlaen i’r ras, dywedodd Thomas; “Mae fy mharatoadau wedi mynd yn dda ac rwy’n teimlo mewn lle gwych cyn dechrau’r ras. Mae gennym ni dîm da ac mae yna berthynas dda rhwng y grŵp yma. Rydym wedi treulio llawer o amser gyda’n gilydd mewn gwersyll hyfforddi; rydyn ni’n gwybod beth sydd angen i ni ei wneud ac rydyn ni i gyd yn teimlo’n llawn cymhelliant i gyflawni’r swydd a’i chyflawni.

“Mae’n amlwg mai Tadej Pogačar yw’r ffefryn ac mae ganddo dîm cryf o’i amgylch, mae hynny’n newid deinamig y ras rhywfaint. Ond, mae hynny hefyd yn golygu y bydd y sylw i gyd arno fe dros y tair wythnos anodd o rasio. Ein cynllun ni yw i fod yn ymosodol a chwilio am bob cyfle i ychwanegu pwysau a chymryd amser.”

Mae Thomas hefyd yn gobeithio rasio unwaith eto yn y Tour de France eleni. Aeth ymlaen i son am sut mae paratoi ar gyfer y ddwy ras;

“Gyda’r cynllun o rasio’r Giro ac yna yn syth i mewn i’r Tour, rydyn ni wedi paratoi rhywfaint yn wahanol eleni ac wedi cymryd ein hamser wrth baratoi at y tymor. Ond, rwy’n teimlo’n dda ac nid wyf i’n edrych ymhellach na’r wythnos nesaf yn yr Eidal ar hyn o bryd. Fy ffocws ar hyn o bryd yw’r Giro a chyrraedd yno yn y cyflwr gorau posib.”