Wedi ei henwi yn un o farathon anoddaf y Deyrnas Unedig, nid ar chwarae bach y mae ymdrechu i redeg – a chwblhau – Marathon Eryri.

Mae’r marathon yn heriol, gyda milltiroedd olaf y ras yn hynod o galed wrth iddynt anelu at bwynt uchaf y ras wedi 24 milltir, bron i 380 metr uwchben lefel y môr ac esgyniad o dros 200 metr mewn dim ond milltir!

Roedd y tywydd, a’r amodau, bron yn berffaith ar gyfer marathon hydrefol cyflym dros y Sul, ac roedd hi’n ras arbennig i orffen y calendr rasio yn 2023.