Cafodd Ellie Lewis, y gymnastwraig iau o Gymru, y fraint o gynrychioli Prydain Fawr yn Top Gym, cystadleuaeth artistig fawreddog i ferched iau yng Ngwlad Belg dros y penwythnos.

Roedd Ellie, sy’n 14 oed ac yn hanu o Ben-y-bont ar Ogwr, yn cystadlu yn y digwyddiad dros Brydain ochr yn ochr â’i chyd-athletwyr Shantae-Eve Amankwaah, Scarlett Bullock ac Abigail Martin.