Rai wythnosau yn ôl daeth ymchwiliad annibynnol y Fonesig Anne Rafferty i’r casgliad bod agweddau o Undeb Rygbi Cymru (URC) yn hiliol, rhywiaethol, misogynistaidd a homoffobig ac roedd elfennau o fwlio a gwahaniaethu o fewn awyrgylch URC hefyd. Nid oedd llywodraethiant y corff yn addas i’w bwrpas ac roedd URC yn defnyddio cytundebau non-disclosure er mwyn tawelu aelodau staff.