Llwyddodd Jade Jones i sicrhau ei hail fuddugoliaeth o’r flwyddyn yn Grand Prix Taekwondo’r Byd ym Mharis penwythnos diwethaf.

Mewn gornest gref sicrhaodd Jade Jones, 30, fuddugoliaeth 2-0 dros ei gwrthwynebydd Luo Zongshi o Tsiena.

Dyma’r trydedd fuddugoliaeth yn olynol i Jones ac roedd hefyd yn gyfle iddi wneud yn iawn am golli i Zongshi yn rownd cyn derfynol pencampwriaethau’r byd y llynedd.