Ar benwythnos prysur ym Mhrifysgol Bangor, cynhaliodd Canolfan Brailsford gystadleuaeth Tennis Bwrdd y Gwledydd Cartref.
Roedd saith gwlad yn cystadlu ar lefel ieuenctid, iau ac hyn gyda’r goreuon i’w gweld trwy gydol y penwythnos.
Yn cystadlu am y teitlau oedd Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, Yr Alban, Jersey, Guernsey, ac Ynys Manaw.
Cynhelir y digwyddiad hwn ddwywaith y flwyddyn a dyma’r tro cyntaf ers 14 mlynedd i Gymru ei llwyfannu.