‘Y gêm hardd’ : ymadrodd yn bendant sy’n cael ei orddefnyddio a’i gamddefnyddio’n aml. Yn 2004 daeth Chelsea i’r amlwg fel peiriant ennill didostur, pragmatig ac effeithiol o dan Jose Mourinho. Dim ond 15 gôl ildion nhw ar draws tymor cynghrair cyfan, sy’n dal yn record. Ond heblaw am gefnogwyr Chelsea, wedi eu hamddifadu o lwyddiant cynghrair mor hir, pwy arall mwynhaodd eu dull o chwarae?