Enwyd y canolwr Keiran Williams yn Seren y Gêm yng ngêm ddarbi fawr y gorllewin dros y Sul wrth i’r Gweilch drechu’r Scarlets o 31-9.
Yn rhan o’i berfformiad arbennig yn Stadiwm Swansea.com fe lwyddodd i sgorio dau gais.
Er i’r canolwr, 25 oed, fethu a chyrraedd carfan Cwpan y Byd Cymru ar gyfer y bencampwriaeth yn Ffrainc mae ei brif hyfforddwr Toby Booth wedi dweud wrtho i dargedu pencampwriaeth y Chwe Gwlad.