Mae’n debyg bod tua un ym mhob deuddeg dyn yn dioddef o ddiffyg golwg lliw gyda gwyrdd a choch yn achosi’r problemau mwyaf difrifol. Mae’r nifer o fenywod sy’n cael trafferth gyda golwg lliw llawer yn is gyda’r ffigyrau oddeutu un ym mhob 200.

Gyda Chymru a Phortiwgal yn dod wyneb yn wyneb yn ail rownd Cwpan y Byd, a chrysau ‘cartref’ y ddau dîm yn goch roedd yn annatod bod un o’r timau yn mynd i orfod gwisgo’i crys amrywiol.