Am syniad dwl nes i feddwl, teithio o gwmpas Ffrainc mewn camperfan wrth gefnogi Cymru! Oes lle ar ôl oedd y cwestiwn cyntaf i fi ofyn ar ôl cael yr all clear wrth y boss (y wraig) a neud bach o jyglo gyda gwaith. Rhaid bydde colli parti diwedd cyfres 50 Pobol y Cwm yn y gobaith bydde Cymru yn llwyddo curo Ffiji yn y gêm gyntaf yn Bordeaux. Atgofion o golli i’r ynyswyr talentog yng Nghwpan y Byd 2007 dal yn fyw yn y cof, diolch i gwrw 0% o nhw yn gwerthu yn y stadiwm y diwrnod hwnw.