Ydych chi wastad wedi efelychu llwyddiant chwaraewyr fel Nia Jones, Georgia Rowe, Suzy Drane neu Helen Weston ar y cwrt pêl-rwyd?
Boed yn amddiffynwr, chwaraewr ymosodol neu sgoriwr goliau mae cyfle i chi geisio i fod yn un o sêr Cymru y dyfodol.
Mae Pêl-rwyd Cymru yn cynnal treialon agored mis nesaf yn Athrofa Chwaraeon Cymru.
Fe fydd y treialon yn cymryd lle ddydd Sadwrn 14 Hydref am 10 y bore, ac mae’r cyfnod cofrestru yn cau ddydd Mercher 11 Hydref am 12 y prynhawn.