- Cei Connah yn sgorio saith yn erbyn Y Barri a Michael Wilde, yr ymosodwr 40 oed, yn sgorio’i ail gôl o’r wythnos a’i 100fed gôl i Gei Connah yn ei seithfed tymor â hwy
- Pum tîm o’r chwech uchaf yn ennill ac yn cryfhau eu gobeithion o gadw eu safleoedd hyd nes bydd y gynghrair yn hollti’n ddau
- Pum pwynt o wahaniaeth rhwng Caernarfon yn y chweched safle a Phen-y-bont yn y seithfed safle wrth i’r gynghrair nesáu at yr hollt ymhen pedair gêm
- Dim newid yng ngwaelod y tabl gyda’r pedwar gwaelod, Aberystwyth, Pontypridd, Bae Colwyn a’r Barri i gyd yn colli
(Dydd Sadwrn)
Cei Connah 7-0 Y Barri
Michael Wilde oedd y seren unwaith eto brynhawn Sadwrn wrth iddo sgorio’i ail o’r wythnos a’i 100fed gôl i Gei Connah.
Ar ôl ymuno â’r clwb nôl yn 2016 mae’r ymosodwr 40 oed wedi bod yn chwaraewr allweddol iddynt am saith tymor erbyn hyn.
Caiff ei adnabod fel un o ymosodwyr gorau Uwch Gynghrair Cymru yn ystod y ddegawd ddiwethaf. Cyn ymuno a Chei Connah treuliodd bedwar tymor gyda’r Seintiau Newydd gan sgorio dros 100 o goliau iddynt hwythau hefyd.
Wedi’r fuddugoliaeth swmpus o saith gôl i ddim yn erbyn Y Barri mae Cei Connah yn gyfforddus yn yr ail safle bellach, bum pwynt yn glir o Fet Caerdydd.
Yn rhyfeddol, Y Barri gafodd gyfle cynta’r gêm a hynny drwy Kayne McLaggon ond ag yntau wyneb yn wyneb â’r golwr ni lwyddodd i ganfod cefn y rhwyd.
Sgoriodd Cei Connah eu cyntaf ar ôl oddeutu chwarter awr wrth i bas beryglus gan Jordan Davies achosi i Callum Sainty rwydo i’w gôl ei hun.
Jack Kenny sgoriodd o fewn ychydig wedyn wrth iddo ddefnyddio’i ben yn dda i anelu’r bêl i gornel y rhwyd o groesiad Declan Poole.
Yn fuan wedi dechrau’r ail hanner fe sgoriodd Kenny ei ail o’r gêm a’i wythfed gôl eleni wrth i’w ergyd lithro dan draed y golwr Luc Rees.
Gyda hanner awr yng ngweddill fe ychwanegodd y tîm cartref ddwy gôl arall at eu mantais gyda Harry Franklin yn sgorio gyntaf cyn i hanner foli wych gan Ryan Harrington ganfod cefn y rhwyd hefyd.
Wedi gwaith da lawr yr asgell unwaith yn rhagor gan Declan Poole fe beniodd Jordan Davies ei 13eg gôl o’r tymor a’r chweched o’r prynhawn i Gei Connah.
Gyda’r gêm yn tynnu at ei therfyn fe ymunodd Michael Wilde yn y sgorio gyda’i ergyd acrobataidd yn y cwrt yn sicrhau ei 100fed gôl mewn steil.
(Dydd Sadwrn)
Met Caerdydd 4-2 Aberystwyth
Ar ôl colli eu tair gêm ddiwethaf a hynny mewn gemau caled yn erbyn Y Drenewydd, Y Bala a’r Seintiau Newydd yr un hen stori oedd hi i Aberystwyth ddydd Sadwrn wrth iddynt wynebu Met Caerdydd sydd erbyn hyn heb golli gêm yn yr un o’u naw ddiwethaf.
Gydag un gêm wrth gefn ganddynt mae’r fuddugoliaeth hon wedi cryfhau gobeithion Met Caerdydd o orffen yn y chwech uchaf yn sylweddol. Bellach mae yna saith pwynt o wahaniaeth rhyngddynt hwy yn y pedwerydd safle a Phen-y-bont yn y seithfed safle.
Rhoddwyd pwysau cynnar ar Aberystwyth brynhawn Sadwrn ond fe gymerwyd 40 o funudau i’r tîm cartref fynd ar y blaen a hynny drwy gôl gan Eliot Evans.
Evans gafodd yr ail hefyd, wrth iddo godi’r bêl yn y cwrt a chreu lle iddo’i hun fedru rhwydo’i chweched gôl eleni.
Fe darodd Aberystwyth yn ôl ymhen ychydig funudau wrth i Mark Cadwallader sgorio’i ail gôl mewn dwy gêm gyda pheniad o gic gornel.
Yr eilydd, Alex Darlington, sgoriodd nesaf a hynny funudau yn unig ar ôl dod ymlaen. Rhywsut neu’i gilydd fe lwyddodd i gario’r bêl dros y llinell gan sgorio’i gôl gyntaf y tymor hwn a dod ag Aberystwyth yn gyfartal.
Wedi gwaith da gan Thomas Price a lithrodd y bêl i Chris Craven fedru taro am y gôl fe aeth Met Caerdydd dair gôl i ddwy ar y blaen gyda chwarter awr yng ngweddill.
Sicrhaodd Harry Owen y tri phwynt yn fuan wedyn wrth iddo guro’r amddiffynnwr a’i adael ar lawr cyn taro ergyd nerthol i gornel isa’r rhwyd.
(Dydd Sadwrn)
Y Drenewydd 4-2 Bae Colwyn
Diolch i goliau gan brif sgoriwr y gynghrair, Aaron Williams, mae’r Drenewydd bellach yn ddiguro yn eu pedair gêm ddiwethaf ac maent wedi ennill tair o’r rheini hefyd.
Maent yn gyfforddus yn y chwech uchaf gyda deg pwynt o wahaniaeth rhyngddynt hwy yn y trydydd safle a Phen-y-bont sy’n seithfed.
Sgoriodd Ryan Sears ei ail gôl mewn dwy gêm i’r Drenewydd ddydd Sadwrn gan roi ei dîm un gôl ar y blaen gyda pheniad o gic gornel.
Tarodd Matty Hill yn ôl i Fae Colwyn cyn hanner amser gyda phêl hir yn curo’r amddiffynwyr ac yn rhoi Hill drwodd i rwydo’n hyderus.
Gyda’r hanner cyntaf yn dod at ei derfyn, ar ôl cyd chwarae da gyda Tommy Creamer fe roddodd Udoyen Akpan Bae Colwyn ar y blaen. Hon oedd y bedwaredd gêm iddo sgorio ynddi’n olynol.
Byddai wedi bod yn ganlyniad gwerthfawr i’r ymwelwyr petai pethau wedi parhau’r un fath ond fe drowyd y gêm ar ei phen gan Aaron Williams a sgoriodd ddwy o fewn munud i’w gilydd.
Peniad yn gyntaf ganddo ac yna gwrth ymosodiad cyflym gan y Drenewydd yn creu’r cyfle iddo daro ergyd ddeallus i gefn y rhwyd unwaith eto.
Mae gan brif sgoriwr y gynghrair bellach 15 gôl i’w enw sydd ond dwy yn llai na’r nifer y cafodd yn ei dymor sgorio gorau yn Uwch Gynghrair Cymru y tymor diwethaf.
O un pen y cae i’r llall cafodd Y Drenewydd wrth ymosodiad arall gyda deng munud i fynd a ddiweddodd mewn gôl arall iddynt. Louis Robles y tro hwn yn sicrhau’r pwyntiau i’w dîm.
(Dydd Sadwrn)
Pontypridd 1-2 Caernarfon
Diolch i gôl wych arall gan Sion Bradley fe frwydrodd Caernarfon yn ôl brynhawn Sadwrn i drechu Pontypridd a sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf ers pedair o gemau.
Maent ar hyn o bryd yn y chweched safle ac yn eithaf sicr o’u lle gyda phum pwynt o wahaniaeth rhyngddynt hwy a Phen-y-bont oddi tanynt.
Parhau i waethygu mae sefyllfa Pontypridd. Un fuddugoliaeth sydd ganddynt yn eu 13 gêm gynghrair ddiwethaf a dim ond un pwynt yn eu saith ddiwethaf.
Gyda Ben Ahmun yn dechrau ei gêm gyntaf ers dechrau mis Medi roedd gan Bontypridd hwb ychwanegol ar gyfer y gêm hon ddydd Sadwrn a hwythau’n parhau i fod y tîm sydd wedi sgorio’r nifer lleiaf o goliau hyd yma.
Sgoriodd Ahmun 14 o goliau y tymor diwethaf ac mae’n chwaraewr gwerth ei halen i dîm fel Pontypridd sy’n straffaglu tua’r gwaelodion.
Er na lwyddodd yr ymosodwr i daro cefn y rhwyd yn ei gêm gyntaf yn ôl, fe chwaraeodd ran allweddol yn y gôl gyntaf wrth i’w groesiad perffaith i gyfeiriad Owain Jones arwain at foli arbennig i gornel ucha’r rhwyd.
Ar ôl 60 munud cafodd Darren Thomas ei dynnu i lawr yn y cwrt ac o’r smotyn fe rwydodd Zack Clarke ei wythfed o’r tymor.
I ennill y gêm i’w dîm fe orffennodd Sion Bradley symudiad da o basio gan Gaernarfon drwy dynnu i mewn ar ei droed dde cyn canfod cornel ucha’r rhwyd gydag un arall o’i ergydion arbennig.
(Nos Sadwrn)
Pen-y-bont 0-2 Y Bala
Pylu mae gobeithion Pen-y-bont o orffen yn y chwech uchaf wedi’r golled yn erbyn y Bala nos Sadwrn. Dim ond un fuddugoliaeth sydd ganddynt yn eu naw gêm ddiwethaf erbyn hyn.
Gyda phedair gêm yn unig nes bydd y gynghrair yn hollti’n ddau a phum pwynt o wahaniaeth rhwng Pen-y-bont a’r chweched safle fe fydd angen gwyrth arnynt mae’n debyg i gyflawni eu targed.
Gwynebant Y Seintiau Newydd, Cei Connah a Met Caerdydd yn eu gemau nesaf hefyd fydd yn sicr ddim yn gwneud y dasg ddim haws.
O fewn pum munud nos Sadwrn roedd Y Bala ar y blaen a hynny ar ôl i Paulo Mendes sgorio’i gôl gyntaf eleni gydag ergyd dda y tu mewn i’r cwrt.
Yn fuan wedyn fe sgoriodd Aeron Edwards ei gôl gyntaf yntau o’r tymor eleni hefyd a hynny wedi iddo dynnu’r bêl yn dda i lawr yn y cwrt ac yna llithro’r bêl heibio’r golwr.
Gyda’r hollt yn agosáu ac ar ôl ennill dwy o’u tair gêm ddiwethaf mae tîm Colin Caton wedi llwyddo i fynd ar rediad da ar adeg berffaith o’r tymor.
Gemau i ddod:
(Dydd Sadwrn, 16eg o Ragfyr)
- Y Bala v Met Caerdydd
- Y Barri v Y Drenewydd
- Caernarfon v Hwlffordd
- Cei Connah v Pontypridd
- Y Seintiau Newydd v Pen-y-bont
- Aberystwyth v Bae Colwyn