• Buddugoliaeth o dair gôl i ddim i’r Seintiau Newydd yn erbyn Pen-y-bont wrth i Declan McManus sgorio gyda’i gyffyrddiad cyntaf ers mis Awst
  • Mewn gêm bwysig ar gyfer safleoedd y chwech uchaf cododd Hwlffordd i’r seithfed safle ar ôl curo Caernarfon o un gôl i ddim ddydd Sadwrn
  • Pontypridd yn colli o dair gôl i un yng Nghei Connah a bellach ar waelod y gynghrair ar ôl i Gymdeithas Bêl-droed Cymru dynnu chwech o bwyntiau oddi arnynt hefyd
  • Eliot Evans yn sgorio i Fet Caerdydd wrth iddynt guro’r Bala gan barhau gyda’u rhediad arbennig â hwythau erbyn hyn â naw buddugoliaeth mewn 13 o gemau

 

(Dydd Sadwrn)

Y Seintiau Newydd 3-0 Pen-y-bont

Yn eu gêm gartref gyntaf ers sbel fe ymestynnodd Y Seintiau Newydd eu rhediad o gemau diguro ymhellach yn erbyn Pen-y-bont ddydd Sadwrn. Ar hyn o bryd mae eu rhediad yn 26 o gemau heb golli gan gynnwys 18 buddugoliaeth yn olynol.

Mewn llai na hanner munud fe aeth Y Seintiau Newydd ar y blaen wrth i Jordan Williams gario’r bêl yn dda i lawr yr asgell cyn curo’r golwr ar y postyn agosaf.

Wedi nifer o ymdrechion ganddynt i ymestyn eu mantais fe gafodd Y Seintiau Newydd eu hail gôl o’r diwedd a hynny ddeng munud cyn y diwedd. Yr amddiffynnwr Josh Pask yn cael  y cyffyrddiad tyngedfennol ar ergyd Ben Clark gan sgorio am y tro cyntaf yn y gynghrair ers ymuno â’r Seintiau Newydd o Coventry yn haf 2022.

I roi’r eisin ar y gacen fe sgoriodd Declan McManus drydedd i’r Seintiau Newydd cyn y diwedd a hynny gyda’i gyffyrddiad cyntaf ar ôl bod allan o’r tîm ers mis Awst gydag anaf. Funud yn unig ar ôl dod ymlaen fel eilydd, wedi 87 o funudau fe darodd McManus gic rydd ragorol o ymyl y cwrt i gornel ucha’r gôl. Er mai tair gêm un unig y mae wedi chwarae y tymor hwn mae wedi llwyddo i sgorio tair gôl. Sgoriodd ei ddwy gyntaf yn erbyn Cei Connah ar benwythnos agoriadol y tymor gyda’r Seintiau Newydd yn ennill o chwe gôl i ddwy y diwrnod hwnnw.

Mae’r pencampwyr yn gyfforddus ar frig y gynghrair gyda 47 o bwyntiau, chwe phwynt yn glir o Gei Connah, a dwy gêm wrth gefn ganddynt hefyd. Ond eto, mae yna dal lle i wella yn ôl chwaraewr y gêm ddydd Sadwrn, Leo Smith: “I fod yn onast dwi reit siomedig efo’r ffor nathon ni chwara. Dio’m y ffor odda ni isho chwara, gadal gormod o chances iddyn nhw ddod amdana ni. Gafon ni ddigon o gyfleodd i ladd y gêm yn yr hannar cynta ond ar ddiwadd y dydd dani di ennill, di cadw clean sheet a dani angan neud yn siŵr boni’n codi safona at y gêm nesa.”

Un fuddugoliaeth mewn deg o gemau sydd gan Ben-y-bont bellach gyda’r chwech uchaf yn prysur fynd o’u gafael. Cyn y gêm ddydd Sadwrn dywedodd eu rheolwr, Rhys Griffiths, eu bod ar hyn o bryd yn gorfod delio gyda nifer o anafiadau a bod hynny ddim yn helpu eu hachos. Un glec heb os iddynt yw absenoldeb eu prif sgoriwr Chris Venables ag yntau heb chwarae yn eu tair gêm ddiwethaf.

(Dydd Sadwrn)

Caernarfon 0-1 Hwlffordd

Ar ôl ennill am y tro cyntaf ers 2020 yn Yr Ofal mae Hwlffordd bellach wedi lleihau’r bwlch rhyngddynt hwy a Chaernarfon yn y chweched safle i dri phwynt. Pedwar pwynt o’u blaenau yn unig y mae’r Bala yn y pumed safle hefyd. I gymharu â’r timau o’u cwmpas mae gan Hwlffordd gêm wrth gefn cyn i’r gynghrair hollti ar ddechrau’r flwyddyn newydd ac felly maent yn llawn gobaith o orffen yn rhan uchaf y tabl.

Gyda’r ddau dîm yn ymwybodol o bwysigrwydd y gêm o ran sefyllfa’r chwech uchaf cafwyd nifer o gyfleoedd yn yr hanner cyntaf wrth iddynt fynd amdani. Fwy nag unwaith roedd gan Gaernarfon le i’w ddiolch i’w golwr 16 oed, Hari Thomas, a stopiodd Hwlffordd ddod o hyd i gefn y rhwyd ar sawl achlysur.

Fe gymerodd hi 70 o funudau i’r gôl gyntaf fynd i mewn wrth i chwarae da gan Dan Hawkins ryddhau Rio Dyer y tu hwnt i amddiffynwyr Caernarfon cyn iddo lithro’r bêl heibio Thomas yn y gôl.

Yn hwyr yn y gêm cafodd Dion Donohue ei anfon o’r cae wedi digwyddiad gydag un o chwaraewyr Hwlffordd wrth i’r ddau dîm ddadlau yn dilyn trosedd gan amddiffynnwr Caernarfon, Gruff John.

Cafwyd un cyfle arall cyn y diwedd a hynny i Gaernarfon wrth i bêl ar draws y cwrt gan Sion Bradley gael ei chlirio gan yr ymwelwyr gyda’r ymosodwyr yn methu â manteisio arni.

Ar ddiwedd y prynhawn roedd rheolwr Hwlffordd, Tony Pennock, yn amlwg yn ymwybodol o bwysigrwydd y fuddugoliaeth: “Roeddem yn gwybod pe bai ni ddim yn ennill heddiw fe fyddai’r chwech uchaf drosodd y tymor hwn, felly roeddem yn gwybod pa mor fawr oedd y gêm i ni. Mi rydym ni dal yn seithfed gyda dipyn o ffordd i fynd, pedair gêm fawr ar ôl.”

Rheolwr Caernarfon, Richard Davies: “Dwi’m yn meddwl odda ni’n haeddu colli. Dwi meddwl odd hi’n gêm o two halves fel sa nhw’n ddeud. Odd y conditions yn rili anodd first half, odda ni’n erbyn y gwynt ag oni’n meddwl bo ni’n defendio’n dda. Odda ni’m yn grêt efo’r bêl, sani di gallu bod yn fwy brave, ond dwi’n dalld efo’r gwynt maeo’n anodd.”

Yn ymateb i gwestiwn yn ei holi os ydynt yn ffyddiog o orffen yn y chwech uchaf dywedodd: “O yndan definite, dyna di’r gôl di bod o dechra’r season ac ia nathon ni siarad amdan hynna, natho ni ddeud dim bwys os dani’n cal draw heddiw, odda ni obviously yn chwara i ennill, ond doddom y result gwaetha, ond na dodd colli ddim yn y game plan heddiw allai ddeud.”

(Dydd Sadwrn)

Cei Connah 3-1 Pontypridd

Gwaethygu mae pethau i Bontypridd o wythnos i wythnos wedi i chwech o bwyntiau gael eu tynnu oddi arnynt yr wythnos ddiwethaf fel cosb am iddynt dorri amryw o reolau Cymdeithas Bêl-droed Cymru ers 2022. Maent bellach wedi disgyn i waelod y tabl ac o dan Aberystwyth.

Gan gynnwys y fuddugoliaeth ddydd Sadwrn mae Cei Connah erbyn hyn wedi wynebu Pontypridd bedair gwaith. Yn y gemau hynny maent wedi llwyddo i sgorio 12 gôl ac ildio dim ond un, sef honno’r penwythnos hwn.

Harry Franklin sgoriodd y gyntaf i Gei Connah ddydd Sadwrn wrth iddo ganfod ei hun o flaen y gôl gyda’r bêl ar blât iddo. Mae ei dymor da o sgorio yn parhau gydag yntau â saith gôl mewn pum gêm.

I’w gwneud hi’n ddwy i ddim wedi cwta hanner awr llithrodd Noah Edwards y bêl i gornel y rhwyd a hynny o ongl anodd.

Fe aeth hi’n dair i ddim wrth i’r hanner cyntaf ddirwyn i ben gyda phrif sgoriwr Cei Connah, Jordan Davies, yn penio gan fanteisio ar bêl arbennig i mewn i’r cwrt gan ei gyd-chwaraewr, Ryan Harrington.

Ar ôl 55 munud fe ddefnyddiodd Ben Ahmun ei gryfder i guro’r bêl yn yr awyr a’i phenio i gyfeiriad y capten Clayton Green cyn iddo ef ganfod cefn y rhwyd i Bontypridd a hynny am y tro cyntaf eleni. Hon oedd ail gêm lawn Ahmun ers dod yn ôl ar ôl anaf ers dechrau mis Medi. Yn y ddwy gêm mae wedi llwyddo i greu goliau i’w dîm, sydd wir angen ychwanegu tuag at eu wyth gôl y tymor hwn os am unrhyw obaith o aros yn y gynghrair.

(Nos Sadwrn)

Y Bala 0-1 Met Caerdydd

Gyda’r ddau wedi llwyddo i gael canlyniadau da yn ddiweddar roeddent yn weddol gyfforddus o’u safleoedd o fewn y chwech uchaf a hynny cyn y gêm nos Sadwrn.

Gyda buddugoliaeth o un gôl i ddim fe lwyddodd Met Caerdydd i gryfhau eu gafael ymhellach ar y pedwerydd safle. Gydag wyth pwynt rhyngddynt hwy a Hwlffordd sy’n seithfed byddai angen rhywbeth mawr i fynd o’i le iddynt beidio â gorffen o fewn y chwech uchaf nawr cyn i’r gynghrair hollti ym mis Ionawr.

Daeth unig gôl y gêm nos Sadwrn yn yr hanner cyntaf wrth i Lewis Rees lithro pas berffaith i Eliot Evans fedru canfod cefn y rhwyd am y seithfed gwaith y tymor hwn. Dyma’r chweched tro i Rees greu gôl i un o’i gyd-chwaraewyr eleni hefyd.

Canmolwyd y symudiad o basio da ar gyfer y gôl gan eu rheolwr, Ryan Jenkins: “Pan ni’n cal y control na allen ni fynd trwyddo i sgorio mwy nag un gôl. Y gôl yn yr hanner cyntaf yn ffantastig, dyna’n union beth rydym ni wedi bod yn gweithio arno drwy’r wythnos, a i gadw ef yn dynn fan hyn a cario mlaen i ffeindio un neu ddau moment i dorri nhw i lawr, dwi’n bles iawn i fod yn onest ydw.”

A hwythau wedi methu â churo’r Bala ym Maes Tegid ers 2019 roedd hi’n fuddugoliaeth gwerth ei chael i Fet Caerdydd am sawl rheswm. Mae eu rhediad arbennig erbyn hyn yn cynnwys naw buddugoliaeth yn eu 13 gêm ddiwethaf ymhob cystadleuaeth. Dim ond un gêm yn unig allan o’r rheini y maent wedi ei cholli hefyd.

Gemau i ddod:

(Dydd Sadwrn, 23ain o Ragfyr)

  • Hwlffordd v Y Seintiau Newydd

(Dydd Mawrth, 26ain o Ragfyr)

  • Met Caerdydd v Pen-y-bont
  • Bae Colwyn v Y Bala
  • Hwlffordd v Y Barri
  • Y Drenewydd v Cei Connah
  • Pontypridd v Aberystwyth
  • Y Seintiau Newydd v Caernarfon