Llwyddodd Harry Franklin i sgorio pedair gôl i Gei Connah yn erbyn Caernarfon, gan gynnwys hat-tric o fewn y deng munud cyntaf; Aberystwyth yn ennill dim ond ei hail gêm o’r tymor a hynny oddi cartref ym Mhen-y-bont; Y Barri yn cael tri phwynt allweddol ym Mae Colwyn diolch i gôl Kayne McLaggon; Y Seintiau Newydd yn parhau â’u rhediad o beidio â cholli gêm gartref ers mis Mawrth

 

(Nos Wener)

Cei Connah 6-1 Caernarfon