Yn sgil y tywydd garw cafodd gêm ddarbi’r canolbarth rhwng Aberystwyth a’r Drenewydd nos Wener ei gohirio. Bydd rhaid i Aberystwyth ddisgwyl eto felly cyn cael cyfle i ennill eu gêm gartref gyntaf yn y gynghrair y tymor hwn. Cafodd y gêm rhwng Bae Colwyn a Phen-y-bont ddydd Sadwrn ei gohirio yn y gogledd hefyd. Bydd dyddiadau newydd ar gyfer ail-chwarae’r gemau hyn yn cael eu cyhoeddi’n fuan.

 

(Dydd Sadwrn)