Cwta tair wythnos wedi’r gêm yn erbyn yr Ariannin yng Nghwpan y Byd, fe fydd Cymru yn troedio tir mawr Stadiwm Principality i wynebu’r Barbariaid.

Mae’r gêm, sydd yn syrthio tu allan i’r ffenest ryngwladol swyddogol, yn gyfle i gefnogwyr ffarwelio ag un o fawrion y byd rygbi yng Nghymru, y clo sydd wedi ennill 158 cap dros ei wlad, Alun Wyn Jones.