Yn dilyn yn dynn ar sodlau Ironman Cymru, cynhaliwyd cystadleuaeth Ironman y Byd penwythnos diwethaf, Sul 10 Medi.

Triathlon pellter hir yw Ironman, sy’n cynnwys 2.4 milltir o nofio, 112 milltir o seiclo cyn rhedeg marathon llawn (26.2 milltir).

Nice, Ffrainc, oedd lleoliad Ironman y Byd i ddynion eleni, ac er mwyn cystadlu mae’n rhaid cymhwyso mewn Ironman arall, unrhyw le yn y byd, yn ystod y flwyddyn flaenorol. Bu dros dwsin o athletwyr yn cynrhychioli Cymru yn y râs.