Osian Pryce, o Fachynlleth, a’i gyd-yrrwr Stephane Prevot gipiodd y fuddugoliaeth yn Rali Ceredigion 2023 gyda Meirion Evans yn ail a James Williams yn drydydd.

Wedi iddynt fynd ar y blaen ar yr ail gymal o 14, llwyddodd Pryce a Prevot i orffen 22.9 eiliad o flaen Meirion Evans / Jonathan Jackson yn yr ail safle, a hwythau 8.6 eiliad o flaen James Williams / Dai Roberts yn y trydydd safle.