Rasys beics trawsgwlad yw cyclo-cross, ar laswellt a thraciau, lan ac i lawr, ar drac hyd at filltir o hyd. Fe’i cynhelir fel arfer mewn parciau cyhoeddus neu ar feysydd chwaraeon, ac yn dechnegol mae’n rhoi llai straen yn gorfforol na beicio mynydd.
Mae’r digwyddiadau yn agored i bawb, mae categori i bawb a rasys ar wahân i feicwyr iau. Rhoddir podiumau/gwobrau i’r 1af, 2il a 3ydd ar gyfer pob categori.