Gyda chynghreiriau pêl droed y gogledd bellach yn eu hanterth, tybed pwy yw’r ceffylau blaen erbyn y ddegfed wythnos. Dechreuwn yn adran gyntaf cynghrair pêl droed arfordir y gogledd ddwyrain lle mae’r clwb newydd Bow FC yn creu proffil arbennig i’w hunain gan iddynt gynnal cofnod perffaith, wrth guro chwech mewn chwech a sgorio pedwar deg un gôl hyd yn hyn! Harrison Bellis sydd yn cipio teitl y prif sgoriwr ar hyn o bryd, gydag un deg pedwar o oliau mewn pum gem. Anhygoel!