Roedd bywyd yn fêl i gyd i’r chwaraewr rygbi Ellis Jenkins cyn i eiliad tyngedfennol ym mis Tachwedd 2018 newid trywydd ei yrfa.
Cynrychiolodd Jenkins ei wlad fel gwr ifanc, gan arwain y tîm dan 20 yng Nghwpan Ieuenctid y Byd yn 2012 a 2013. Ym mhencampwriaeth 2012 llwyddodd Cymru, o dan gapteiniaeth Jenkins, i drechu Seland Newydd, y tro cyntaf erioed i dîm o unrhyw wlad lwyddo i wneud hyn ar y lefel yma.