Cynhaliwyd Noson Wobrwyo Emmy Rhyngwladol yn Efrog Newydd nos Lun, 21ain Tachwedd, gyda un o gwmnïau darlledu chwaraeon blaenllaw Cymru yn rhan o’r seremoni.
Cyflwynir yr Emmy Rhyngwladol i gydnabod y rhaglenni teledu gorau a gynhyrchwyd ac a ddarlledwyd yn wreiddiol y tu allan i’r Unol Daleithiau.
Enwebwyd Whisper Cymru am ei chyfres ddogfen tair rhan a aeth du ôl i’r llenni ar daith hanesyddol Llewod Prydain ac Iwerddon yn 2021.