Roedd hi’n benwythnos hanesyddol i Toyota wrth i Bencampwriaeth Rali’r Byd 2023 ddod i ben gyda’r ras olaf yn Siapan.
Y Cymro Elfyn Evans cipiodd y fuddugoliaeth ar y penwythnos olaf, gyda Toyota yn sicrhau 1-2-3 ar y podiwm.
Gyda Sébastien Ogier a Kalle Rovanperä yn cwblhau’r podiwm, a phencampwriaeth y gwneuthurwr yn ddiogel yn nwylo Toyota yn barod – am y trydydd tymor yn olynol, roedd hi’n ddiweddglo perffaith i’r tîm yn ei rali cartref.