Mae poblogrwydd treiathlons yn rhywbeth sydd wedi mynd o nerth i nerth yn y blynyddoedd diwethaf, gyda channoedd, os nad miloedd, o bobl yn gwasgu eu hunain i mewn i wetsuit a gwthio’u hunain i’r eithaf – yn y dŵr, ar gefn beic, ac ar ddwy droed.
Hygyrchedd i’r gamp, sylw cynyddol, llwyddiant unigolion fel Georgia Taylor-Brown a’r brodyr Brownlee yn y Gemau Olympaidd neu Covid – efallai wir fod bob un wedi chwarae rhan yn nhwf y gamp. Yr hyn sy’n sicr – does dim stop arni!