Penwythnos diwethaf cynhaliwyd cynhadledd #FelMerch yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd i ferched Cymru ddod ynghyd i ddathlu doniau, dysgu a chael eu hymbweru.

Roedd y gynhadledd ddwyieithog o dan arweiniad y gyflwynwraig a’r rhedwraig marathon eithafol Lowri Morgan gyda rhai o enwau mwyaf ysbrydoledig y byd chwaraeon yn dod at ei gilydd mewn digwyddiad arloesol gan yr Urdd, a’r unig gynhadledd o’i math.