Ar ôl sicrhau buddugoliaeth drawiadol yn Rali Ffindir ar ddechrau mis Awst, mae gobeithion Elfyn Evans o gyrraedd y brig ym Mhencampwriaeth Rali’r Byd yn fyw ac yn iach.
Wrth i Kalle Rovanperä, sy’n arwain y bencampwriaeth, rolio o’r neilltu yn y rali llwyddodd Evans i sicrhau mantais sylweddol ar Thierry Neuville a Takamoto.
Mae Evans erbyn hyn yng nghanol Rali EKO Acropolis, Groeg, un o’r heriau mwyaf i’r ceir a’r criw yng nghalendr y bencampwriaeth.