Wrth i ni gyrraedd hanner ffordd yn nhymor Pencampwriaeth Rygbi Unedig BKT ry’n ni’n dal i aros i weld un o’r rhanbarthau yn symud i hanner uchaf y tabl.
Wedi wyth rownd o gemau, a buddugoliaeth dros y Scarlets ar Ŵyl San Steffan, mae’r Gweilch bellach yn y nawfed safle ac o fewn cyrraedd â’r wyth uchaf.
Mae Rygbi Caerdydd yn yr unfed safle ar ddeg, y Scarlets yn 14eg a’r Dreigiau reit ar waelod y tabl gydag ond un fuddugoliaeth o’i wyth gêm.