Pwnc sy’n agos iawn at fy nghalon sy’n dal fy sylw yr wythnos yma. O ble ma’r genhedlaeth nesa’ o arwyr cenedlaethol yn mynd i ymddangos? Fi’n mynd i edrych yn ddyfnach i’r talent ifanc sy’ ‘na yng Nghymru ar draws yr holl feysydd chwaraeon.

Wrth gwrs nai edrych ar rygbi a phêl-droed, ond ma’ ‘na lot fwy o chwaraeon na’r ddau yna’n cael eu chwarae led led Cymru. Pêl fasged, bowls, tenis, golff, gwyddbwyll, bocsio, sboncen, judo, codi pwysau, nofio, athletau, sgio, bmx, motocross, rasio ceffylau i enwi ond llond dwrn. A gyda’r byd ceffylau i fi’n mynd i ddechrau.

Yr wythnos diwetha’ nes i neidio ar y beic a mynd am siwrne o Gaerdydd i mewn i’r fro, at stablau Tim Vaughan, yr hyfforddwr (trainer) ceffylau. Ond, joci ifanc o’r enw Lowan Cruise Mills, oedd y talent o’ ni am gwrdd.

Un deg tri mlwydd oed yw Lowan ac ma’ e bellach yn cael ei addysg o adre ac yn gwario tri / pedwar diwrnod yr wythnos yn reidio merlod rasio ei hun, yn ogystal â cheffylau Tim Vaughan, ceffylau sy’ werth miloedd o bunnoedd, ceffylau rasio pwerus, cyflym. Llond llaw i jocis profiadol, heb son am fachgen ifanc sy’n 6 stôn a hanner. Ond ma Lowan Cruise Mills yn dalent.

Talent amryddawn â dyfodol disglair

Nid yn unig paratoi y ceffylau i fynd i rasio mae e’n ‘neud. Mae e’n rasio merlod ar y trac, a point to point ac yn marchogaeth. Mae ‘Cyfres y Traciau Rasio’ yn digwydd cyn y rasys proffesiynol, gydag ambell ras ar y teledu. Ma’r ysfa yn mynd nôl i’w ddadcu, gynt yn joci amatyr ac yn hyfforddwr, a ma’ ceffylau wastod wedi bod yn rhan o fywyd teuluol, gyda Gethyn ei dad yn was stabal ac yn geffyl fyddlon i Lowan. Tacsi dad heb os yn drifo y cerbyd sy’n cario’r ceffylau! Nath Lowan neidio ar geffyl pan yn bump oed, felly mae e eisioes wedi bod yn y cyfrwy (sadl) am with mlynedd. Un o’i frawddegau cyntaf i’w dad oedd, “fi isie ceffyl a fi isie bod yn hyfforddwr ceffylau”, ac erbyn hyn ma Lowan yn gwireddu ei freuddwyd.

Mae ganddo ddefnydd o 6 ceffyl neidio a 6 ceffyl rasio, heb sôn am y rhai ma e’n reidio i Tim Vaughan (rhyw 3 i 6 bob dydd) ac mae ei lwyddiant yn y ddwy gamp yn anhygoel. Yn hybrid o joci. Neidio dros Gymru, yn cystadlu mewn llefydd eiconic megis Hickstead, a Horse of the Year Show fydd hi blwyddyn nesa yn Olympia gobeithio.

Bells of Peterborough, ceffyl Tim Vaughan

Dilyn olion traed ei arwyr

Tîm Prydain Fawr yw ei darged yn yr oedran o ddeuddeg i undeg pedwar. Gyda thaldra Lowan falle taw dyma’r gamp iddo yn y blynyddoedd i ddod. Bydd 2024 yn flwyddyn fawr i fe a’i geffyl gorau, ‘Junior’. Ceffyl sy’n dod nôl o anaf a bydd creu’r berthynas rhyngddynt yn holl bwysig. Tybed os neiff e ddilyn yn olion traed ei arwyr, David Broome, John Whitaker, Ben Maher a Scott Brash, gyda help Carian Scudamore, sy’n hyfforddi Lowan, i’r gemau Olympaidd.

Beth am rasio ceffylau te, a‘i lwyddiannau fan hyn. Mae e wedi domynyddu’n llwyr mewn sawl catagori ar draws Prydain. Catagorïau sydd yn mynd o ran maent y merlod. 138cm a 148cm ar y traciau rasio o amgylch y wlad ac hefyd mewn rasus Point to Point. Mae e ‘di bod yn bencampwr Cymru. Yn bencampwr Prydain ar ‘White Water’ yn 2022 yn Cheltenham. Yn 2023 nath e ennill 10 rownd o Bencampwrieth ‘Dragon Studios’ ar draws Prydain gydag ‘Avalon Dancer’.

Lowan Cruise Mills ar gefn Avalon Dancer

Yn 2023 nath e gystadlu 44 o weithiau, yn ennill 23 o rasus ac yn safle’r 3 uchaf 40 o weithiau. Am record!

Dyma i chi restr o be mae e wedi ennill;

  • 1af Pencampwriaeth Traciau Rasio 138cm
  • 1af Pencampwriaeth Point to Point 148cm
  • Pencampwr Cymru 148cm
  • 2il Pencampwriaeth Point to Point 138cm
  • 2il Pencampwriaeth Cynru 139cm

Am ganlyniadau gwych i’r Cymro ifanc o Fargoed.

Rasys ar y fflat yw rhain i gyd, ond y gwir yw mi fydd Lowan yn tyfu i fod yn rhy drwm i’r rasio yma felly dros y clwydy bydd e’n mynd yn y dyfodol ond ma’ gyda fe dair blwyddyn ar ôl yn y catagorïau yma.

Y cam nesa’ i Lowan

Bydd siwrne Lowan yn debyg i Ed Vaughan, mab Tim sy’n mentora Lowan. Ed ei hun ‘di bod yn bencamwr Cymru a Phrydain, cyn iddo dyfu yn rhy fawr i’r merlod. Mae e bellach yn 16 mlwydd oed ac yn rasio Point to Point ar geffylau ac wedi ennill llond dwrn o rasys yn barod. Ac nid yn unig o gyngor Ed ma’ Lowan yn elwa, mae e hefyd wedi derbyn ambell seren o geffyl, White Water yn un o rhai gorau.

Lowan yw’r ifanca’ sy’n gweithio’n stablau Tim Vaughan ac mae e am ddysgu wrth ac am ddiolch i bob un o’ nhw. Yn rhoi o’i hamser i hyfforddi Lowan. Lle hyfryd i feithrin ei dalent. Mi ddaw amser lle bydd yn gorfod dewis o bosib rhwng Rasio neu Marchogaeth, ond mae’r ffaith ei fod yn feistrolgar yn y ddwy gamp yn help enfawr.

Be’ sy’ nesa i Lowan, be’ sydd ar y gweill? Ennill eto yw’r nod yn 2024, ond wrth edrych i’r dyfodol pell un peth sydd yn sicr, bydd ei fywyd yn glwm â cheffylau. Boed yn joci, yn hyfforddwr neu’n fridiwr, bydd Lowan Cruise Mills yn enw i gadw llygaid arno.