Mae gobeithion Cymru o gyrraedd Ewro 2024 drwy’r grwpiau rhagbrofol yn parhau i fod yn fyw wedi’r fuddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Croatia nos Sul.
Daeth gôl gyntaf Cymru yn fuan ar ddechrau’r ail hanner a’r ail gôl wedyn hanner awr cyn y diwedd gyda Harry Wilson yn sgorio’r ddwy a hynny ar ei 50fed ymddangosiad dros ei wlad.
Sgoriodd Mario Pasalic i Groatia ar ôl 75 munud ond llwyddodd Cymru i ddal eu gafael ar eu mantais gan ennill y gêm.