Cyhoeddodd UEFA yn gynharach yr wythnos hon (26 Medi) mai Cymdeithas Bêl-droed Cymru sydd wedi ei dewis i lwyfannu Pencampwriaeth Dan 19 UEFA yn 2026, gyda’r gystadleuaeth yn cael ei llwyfannu ar draws y gogledd i ddathlu 150 mlwyddiant y gymdeithas.

Cymdeithas Bêl-droed Cymru yw un o’r cymdeithasau pêl-droed hynaf yn y byd, wedi ei ffurfio ar 2 Chwefror 1876 yn Wrecsam. Y Cae Ras, stadiwm bêl-droed hynaf y byd, bydd canolbwynt y twrnament.