Roedd hi’n benwythnos hanesyddol i’r Gweilch, ac i Bencampwriaeth Rygbi Unedig, penwythnos diwethaf wrth i’r rhanbarth Cymreig chwarae gêm ‘gartref’ yn Llundain, y gêm gyntaf erioed yn y gynghrair i’w chwarae yn Lloegr.
Y Gweilch aeth a’r fuddugoliaeth hefyd, yn trechu’r Hollywoodbets Sharks o 19-5 ar gae Twickenham Stoop.
Yng nghanol yr holl gynnwrf i’r tîm cartref oddi cartref, fel petai, yn gapten ar y Gweilch ac yn Seren y Gêm ar ddiwedd yr wythdeg munud oedd Morgan Morris.