Ymysg yr amheuon niferus sydd gan rhai cefnogwyr criced tuag at y ‘Can Pelen’, roedd un yn fwy amlwg na’r lleill i mi. Mae rhai yn dadlau eu bod yn cael eu dieithrio trwy ddiffyg cynrychiolaeth (Durham, Gwlad yr Haf) a nad oes tîm iddynt i’w cefnogi.
Wel, mae’n amhosib osgoi’r tebygrwydd o fod yn gefnogwr criced rhyngwladol o Gymru. Dangosodd yr hen ddadl hon ei wyneb yn ystod Cyfres y Lludw unwaith eto: a ddylai Cymru gael ei thîm criced rhyngwladol ei hun?