Bydd y gystadleuaeth pêl-droed cerdded rhyngwladol gyntaf i’w chynnal yng Nghymru yn cymryd rhan ddechrau Rhagfyr.

Bydd twrnamaint Gwledydd y Gaeaf yn cael ei gynnal ar Ragfyr 2 ym Mharc Chwaraeon Prifysgol De Cymru, ger Pontypridd, pan fydd chwaraewyr o wyth gwlad o bob rhan o’r byd yn camu i gae dan do safonol FIFA.