Yn dilyn llwyddiant Hanner Marathon Caerdydd wythnos diwethaf, a’r ras honno’n dathlu ugain mlynedd yn y brif ddinas, tro Bangor yw hi wythnos yma!

Fe fydd 10k a hanner marathon Bangor yn digwydd dros y Sul gyda’r ras yn dechrau a gorffen yng nghanol y ddinas.

Mae llwybr y ras yn dilyn yr arfordir a Phier y Garth dros y Fenai gyda chyfle i fwynhau golygfeydd o Ynys Môn ac Eryri. Symud ymlaen i lwybrau coedog y gwna’r ras o’r fan honno cyn troi yn ôl am y ddinas.