Mae Hanner Marathon Caerdydd wedi tyfu i fod yn un o’r rasys ffordd fwyaf cyffrous a phoblogaidd yn Ewrop, ac mae’n dathlu ei phenblwydd yn 20 mlwydd oed eleni!

Bydd y ras yn dychwelyd i’r brifddinas ddydd Sul 1 Hydref. Hwn yw’r ail hanner marathon mwyaf yn y Deyrnas Unedig a dyma’r digwyddiad mwyaf yng Nghymru o ran codi arian ar ran elusennau amrywiol.